31
www.abertawe.gov.uk/arweiniadbusnesauDiwlliant
Mae Abertawe’n falch o’i diwylliant a’i
chymeriad unigryw...
Mae ein hamgueddfeydd yn adrodd stori ddynol
bywyd, diwydiant, y môr a’r rhyfel yn Abertawe, ac
maent yn gartref i nifer o gasgliadau hynod ddiddorol
a gasglwyd yn lleol ac o bedwar ban byd.
Ceir ystod eang o gelfyddydau gweledol yn ein
horielau celf sy’n arddangos gwaith cewri’r byd celf
ac artistiaid cyfoes. Mae rhaglen arddangosfeydd
Oriel Gelf Glynn Vivian, a adnewyddwyd yn
ddiweddar, yn dod â gwaith artistiaid heddiw’n
fyw gyda’i throsolwg cyfoes o gelfyddydau mewn
cyd-destun lleol, cenedlaethol a rhyngwladol.
Cynigir rhaglenni cyffrous o ddigwyddiadau byw a
chymysgedd eclectig o berfformiadau gan Neuadd
Brangwyn a Theatr y Grand.
Mae arddangosfa unigryw am ein bardd enwog yng
Nghanolfan Dylan Thomas sy’n cydlynu Gw
^
yl Dylan
Thomas flynyddol sy’n llawn digwyddiadau llenyddol.
Mae Gwobr Ryngwladol Dylan Thomas, a gynhelir
yn flynyddol, yn denu ceisiadau gan gystadleuwyr o
bedwar ban byd a chan rai o’r awduron llên ifanc
gorau yn Saesneg.
Cynhelir llawer o ddigwyddiadau diwylliannol yn
Abertawe, gan gynnwys Sioe Awyr Genedlaethol
Cymru, yr W
^
yl Bwyd Stryd, a Gw
^
yl Gerdd a
Chelfyddydau Ryngwladol Abertawe.
Ceir croeso cynnes i siopwyr ym Marchnad Abertawe,
lle gellir prynu cynnyrch lleol o safon a chofroddion.
Mae Marchnad Abertawe wedi derbyn cydnabyddiaeth
genedlaethol ers iddi gael ei henwi fel Marchnad
Dan Do Fawr Orau Prydain Fawr yn 2015.
Mae Abertawe wedi ennill statws y Faner Borffor
am ansawdd ei heconomi nos. Mae Stryd y Gwynt
yn lle bywiog dros ben, boed amser cinio neu gyda’r
nos, ac yn cynnig cymysgedd arbennig o fwytai,
caffis a thafarnau y mae’n rhaid ymweld â nhw.
Culture
Swansea is justly proud of its unique
culture and character...
Our museums tell the human story of life, industry,
maritime and wartime in Swansea, and house many
fascinating collections gathered locally and from
around the world.
Our art galleries display a broad spectrum of
visual arts, exhibiting work of grand masters and
contemporary artists. The newly-refurbished Glynn
Vivian Art Gallery’s exhibitions programme brings
the work of today’s artists alive with its sharp,
contemporary overview of the arts in a local, national
and international context.
The Brangwyn Hall and Grand Theatre provide
exciting programmes of live events and an eclectic
mix of performances.
The Dylan Thomas Centre hosts a unique exhibition
about our much-loved poet and co-ordinates an
annual Dylan Thomas Festival of literary events; the
annual International Dylan Thomas Prize attracts
world-wide entries from some of the best young
literary writers in the English language.
Many cultural events including the Wales National
Air Show, Street Food Festival and the Swansea
International Festival of classical music and arts are
held across Swansea.
Swansea Market is a wonderfully welcoming place
for shoppers, with quality local produce and souvenirs.
The Market has been recognised nationally as 2015
Great Britain Best Large Indoor Market.
Swansea has a Purple Flag award for the quality
of its night-time economy; the lively Wind Street
lunch and night-time experience – an irresistible mix
of restaurants, cafés and bars – is a must visit.