Background Image
Table of Contents Table of Contents
Previous Page  37 / 64 Next Page
Information
Show Menu
Previous Page 37 / 64 Next Page
Page Background

35

www.abertawe.gov.uk/arweiniadbusnesau

Cysylltedd

Connectivity

Gyda’i chysylltiadau â’r rhwydwaith

trafnidiaeth ehangach, mae Abertawe

mewn lleoliad strategol da ar gyfer

mynediad i weddill y DU, Ewrop a’r

tu hwnt.

Cysylltir Abertawe â Llundain a de-ddwyrain Lloegr

drwy’r M4, ac â Chanolbarth a gogledd Lloegr

drwy’r M50 a’r M5. Mae Abertawe hefyd yn rhan o’r

rhwydwaith coetsis cenedlaethol â gwasanaethau

cyflym ac uniongyrchol i weddill Cymru, canol

Llundain, prif feysydd awyr a rhannau eraill o’r DU.

Mae Abertawe ar brif reilffordd Great Western sy’n

mynd i Lundain ac mae ganddi gysylltiadau â phob

un o brif ddinasoedd y DU.

Mae Maes Awyr Caerdydd lai nag awr i ffwrdd

mewn car, ac yn cynnig amrywiaeth o deithiau i

ddinasoedd Ewrop a’r tu hwnt. Mae maes awyr bach

yn Fairwood ym Mhenrhyn Gw

^

yr hefyd ar gyfer

awyrennau bach ac ysgafn.

Mae porthladd Abertawe mewn lleoliad delfrydol ar

gyfer masnach forol gyda gogledd-orllewin Ewrop,

Iwerddon a’r Canoldir. Associated British Ports sy’n

berchen ar y porthladd ac yn ei weithredu. Mae’n

addas ar gyfer llongau hyd at 30,000 o dunelli ac

mae ganddo ystod eang o gyfarpar gwaith trwm i

ymdrin â chargo modern.

Mae cysylltedd digidol yn cynyddu:

Mae band eang (Mynediad Cenhedlaeth Nesaf)

ar gael i 96% o eiddo Abertawe.

Mae band-eang ffeibr ar gael i oddeutu 80% o

eiddo, gan gynnig cyflymderau o hyd at 80mbps

Mae Abertawe ymysg y lleoliadau cyntaf yn y DU

i elwa o fand-eang gwibgyswllt sy’n gallu cynnal

cyflymderau o hyd at 1gbps.

Mae cynlluniau profi band-eang gwibgyswllt BT

yn galluogi ymchwilwyr academaidd, busnesau

newydd a darparwyr cyfathrebu eraill i roi cynnig

ar dechnolegau a rhaglenni newydd sy’n manteisio

ar gyflymderau uwch a ddarperir gan ‘G.fast’/

band-eang gwibgyswllt.

With its connections to the wider

transport network, Swansea is

strategically located to access the UK,

Europe and beyond.

Swansea is linked to London and the South East via

the M4, and to the Midlands and the North via the

M50 and M5. Swansea is also part of the national

coach network with direct express services to the

rest of Wales, Central London, major airports and

other parts of the UK. Swansea is located on the

Great Western Mainline to London and has links to

all the UK’s main cities.

Cardiff Airport is less than an hour’s drive away,

offering a range of flights to European cities and

beyond. There is also a small airport located at

Fairwood on Gower handling light aircraft and

private planes.

The port of Swansea is ideally placed for maritime

trade with north-west Europe, Ireland and the

Mediterranean. Owned and operated by Associated

British Ports, the port caters for ships up to 30,000

tonnes and is equipped with a wide range of

heavy-duty modern cargo handling equipment.

Digital connectivity is growing:

Broadband coverage (Next Generation Access

NGA) is available to 96% of Swansea premises

Fibre broadband is available for around 80% of

premises offering speeds of up to 80mbps

Swansea is among the first locations in the UK to

benefit from ultrafast broadband which is capable

of maintaining speeds up to 1Gbps

BT’s ultrafast broadband test lab allows academic

researchers, start-ups and other communications

providers to trial new technologies and applications

that exploit the higher speeds provided by

‘G.fast’/ultrafast broadband