Background Image
Table of Contents Table of Contents
Previous Page  23 / 64 Next Page
Information
Show Menu
Previous Page 23 / 64 Next Page
Page Background

21

www.abertawe.gov.uk/arweiniadbusnesau

Arloesedd

Innovation

... wrth wraidd llwyddiant economaidd

Abertawe...

Mae cais arloesol am Fargen Ddinesig ‘Arfordir

Rhyngrwyd’ ar waith mewn cydweithrediad â

Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU. Ffocws

hyn fydd datblygu Dinas-ranbarth Bae Abertawe

yn brif ganolbwynt digidol rhyngysylltiedig drwy

fuddsoddi’n sylweddol mewn isadeiledd digidol a

meysydd ynni, gwyddorau bywyd a phrosiectau

rhwydwaith digidol wedi’u seilio ar ddata.

Drwy brifysgolion Abertawe, mae gan fusnesau

fynediad i arbenigedd arloesol mewn meysydd fel

gwyddorau bywyd, uwch-beirianneg, deunyddiau,

technolegau carbon isel, diwydiannau creadigol a

chyfryngau digidol.

Mae’r Sefydliad Gwyddor Bywyd ym Mhrifysgol

Abertawe’n gwneud gwaith ymchwil a datblygu

rhyngddisgyblaethol yn yr un lleoliad â chyfleusterau

ymchwil clinigol cyfoes ac unedau cychwyn

busnesau o’r radd flaenaf, ac mae’n cefnogi twf

clwstwr gwyddorau bywyd deinamig.

Mae sector creadigol cryf yn datblygu sy’n gartref i

fusnesau megis iCreate, Waters Creative, Vibe TV a

Netbop. Lleolir man pwrpasol cyntaf Cymru wedi’i

adeiladu at ddibenion y diwydiannau creadigol yn

unig ym Mhentref Trefol canol dinas Abertawe, gan

ddarparu canolfan fforddiadwy ac arloesol ar gyfer

busnesau bach newydd, cwmnïau creadigol a’r

celfyddydau perfformio.

Mae gan Abertawe sector technoleg ffyniannus,

gyda llawer o fentrau newydd yn dod i’r amlwg i

fasnacheiddio ymchwil ac arbenigedd mewn

meysydd fel y cyfryngau digidol a TGCh; mae

TechHub Abertawe (un o saith TechHub yn unig

ar draws y byd) ac Indycube Abertawe Ganolog yn

enghreifftiau ffyniannus o fannau newydd i

gydweithwyr sy’n cefnogi gweithgarwch busnes

blaengar ac arloesol.

...is key to Swansea’s economic success...

An innovative ‘Internet Coast’ City Deal bid

is being progressed with the UK and Welsh

Governments. This focuses on developing the

Swansea Bay City Region into an interconnected

digital superhub, through major investment in

digital infrastructure and related energy, life

science, advanced manufacturing and data-driven

digital network projects.

Through Swansea’s universities, businesses have

access to cutting-edge expertise in areas such

as life science, advanced engineering, materials,

low carbon technologies, creative industries and

digital media.

The Institute of Life Science based at Swansea

University co-locates interdisciplinary research

and development with state-of-the-art clinical

research facilities and business incubation units,

and is supporting the growth of a dynamic life

science cluster.

A strong creative sector is developing which includes

businesses such as iCreate, Waters Creative, Vibe TV

and Netbop. Wales’s first dedicated space built purely

for use by the creative industries is located at

Swansea’s Urban Village development in the City

Centre, providing an affordable and cutting-edge

hub for small start-ups, creative companies and the

performing arts.

Swansea has a burgeoning technology sector, with

many new enterprises emerging to commercialise

research and expertise in areas such as digital

media and ICT; Swansea TechHub (one of only seven

TechHubs around the world) and Indycube Swansea

Central are thriving examples of new co-worker

spaces supporting enterprising and innovative

business activity.