Background Image
Table of Contents Table of Contents
Previous Page  21 / 64 Next Page
Information
Show Menu
Previous Page 21 / 64 Next Page
Page Background

19

www.abertawe.gov.uk/arweiniadbusnesau

Creu cyrchfan masnachu, manwerthu a

hamdden cryf...

Mae cymysgedd deniadol o weithio, byw a dysgu

yn y ddinas yn cael ei sefydlu, wedi’i gefnogi gan

gynigion manwerthu a hamdden amrywiol a

chysylltiadau gwell rhwng canol y ddinas a’r glannau.

Bydd Pentref Digidol newydd ar Ffordd y Brenin yn

darparu swyddfeydd hyblyg mewn amgylchedd

llewyrchus o safon i gefnogi mwy o weithgareddau

busnes technoleg gwerth uwch a fydd yn hybu economi

ehangach Dinas-ranbarth Bae Abertawe yn fwyfwy.

Ynghyd â hyn, cynllunnir datblygiad hamdden a

defnydd cymysg newydd ar safle Abertawe Ganolog.

Bydd y datblygiad cyffrous hwn yn cynnwys

arena ddigidol dan do newydd sbon ar gyfer

digwyddiadau a chyngherddau a sgwâr digidol

awyr agored

mwy o gyfleusterau manwerthu i ehangu amrywiaeth

o siopau canol y ddinas,

sinema bwtîg, bwytai, caffis

lle ychwanegol i swyddfeydd y Brifysgol

gwesty newydd, fflatiau preswyl

pont lydan i gerddwyr i greu cysylltiad parhaol

rhwng y ddinas a’r glannau.

Yn ogystal, mae ardal Glannau’r Ddinas yn lleoliad

allweddol a fydd yn gyrchfan masnachol a hamdden

newydd yn Abertawe, ac yn darparu mwy o gartrefi

a chyfleusterau cymunedol.

Bydd y datblygiadau hyn, gyda’i gilydd, yn creu

dinas ddigidol gref a llewyrchus a fydd yn ganolfan

economaidd i’r dinas-ranbarth ehangach.

Trawsnewid Canol Dinas

Abertawe

Transforming Swansea

City Centre

To create a strong retail, commercial

and leisure destination...

An attractive mix of city working, living and learning

is being created, supported by a diverse retail and

leisure offering and improved connections between

the City Centre and Waterfront.

A new Digital Village on the Kingsway will provide

flexible office space within a high quality and

vibrant commercial environment to support the

growth of higher value, technology business

activities, that will increasingly drive forward the

wider Swansea Bay City Region economy.

This is complemented by a new leisure-led, mixed-

use development planned for Swansea Central

which will include

a new Digital Arena for events and concerts and

an outdoor Digital Square

more retail to extend the City Centre’s range

of shops

a boutique cinema, restaurants, cafés

additional space for University offices

a new hotel, residential apartments

a broad pedestrian bridge to create a permanent

link from the city to the waterfront

Additionally, the City Waterfront area is a landmark

location that will become a new commercial and

leisure destination in Swansea, in combination with

additional residential and community uses.

Together, these developments will create a strong

and vibrant digital city that will be the economic

engine of the wider city region.

Swansea Central Development

Datblygiad Abertawe Ganolog

Digital Village

Pentref Digidol

City Waterfront Development

Datblygiad Glannau’r Ddinas

Digital Arena

Arena Ddigidol