Background Image
Table of Contents Table of Contents
Previous Page  47 / 64 Next Page
Information
Show Menu
Previous Page 47 / 64 Next Page
Page Background

45

www.abertawe.gov.uk/arweiniadbusnesau

Bae Abertawe -

Cynadleddau ar lan y môr

Swansea Bay -

Conferences by the Sea

Gyda’i leoliad ar lan y môr, hygyrchedd ac ymagwedd

broffesiynol at ofynion eich digwyddiad cynadledda,

mae Bae Abertawe wedi bod yn ddewis poblogaidd i

fusnesau ers amser, ac mae datblygiadau diweddar

yng nghanol y ddinas a Glannau Abertawe SA1 wedi

ychwanegu dimensiwn newydd at ein portffolio

cynadledda a chyfarfodydd. Adnewyddwyd lleoliad

y Brangwyn â gofal mawr a gall ddarparu gwasanaeth

cynadledda o’r radd flaenaf a chyda Bae Abertawe

mewn golwg. Mae ystafelloedd y Branwyn yn cynnwys

Neuadd eiconig y Brangwyn sy’n cynnig lle i dros

1,000 o bobl ond hefyd ystafelloedd llai sy’n gallu

croesawu rhwng 10 a 200 o gynrychiolwyr. Mae

cyfadeilad hamdden yr LC yn lleoliad cyffrous ar

gyfer digwyddiad corfforaethol neu adeiladu tîm.

Rhowch gynnig ar yr her o ddringo’r wal 30

troedfedd neu dysgwch sut i syrffio ar y ‘Board Rider’.

Mae Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, â golygfa

o’r Marina, yn lleoliad delfrydol am ddigwyddiad

arbennig, derbyniad neu ginio, ac mae gan Stadiwm

Liberty amrywiaeth helaeth o ystafelloedd cynhadledd

a chyfarfod i roi elfen o chwaraeon i’ch digwyddiad.

Mae gan gynrychiolwyr cynadleddau lawer o

opsiynau o ran llety, gan amrywio o westai pedair

seren i lety gwely a brecwast o safon, a gall ein

gwestai cynadledda proffesiynol fodloni gofynion

cyfarfodydd a llety. Mae arfordir a chefn gwlad

hardd Penrhyn Gw

^

yr yn cynnig lleoliad perffaith ar

gyfer gweithgareddau adeiladu tîm a hyfforddiant i

reolwyr. Ceir amrywiaeth eang o weithredwyr

achrededig wrth law i ddarparu pecynnau wedi’u

teilwra. Gall y tudalennau am gynadleddau ar

croesobaeabertawe.com eich helpu i ddod o hyd i

gyfleusterau perffaith i’ch anghenion cynhadledd a

chyfarfod ym Mae Abertawe.

With its coastal location, easy access and professional

approach to your conference event requirements,

Swansea Bay has always been a popular choice for

business, and the recent developments in the City

Centre and SA1 Swansea Waterfront have added a

new dimension to our conference and meeting port-

folio. The City’s Brangwyn venue has been lovingly

refurbished and can provide a first-class conference

service within sight of Swansea Bay. The Brangwyn’s

suite of rooms includes the iconic Brangwyn Hall

which can seat over a 1,000 to breakout rooms

accommodating between 10 and 200 delegates.

The LC leisure complex is an exciting venue for a

corporate or team building event – enjoy the challenge

of the 30ft high climbing wall or learn to surf on the

‘Board Rider’. The National Waterfront Museum

overlooking the Marina is an ideal venue for a

signature event, reception or dinner, and the Liberty

Stadium has a wide range of conference and

meeting rooms to give your event a sporting flavour.

Conference delegates have a range of accommodation

options, ranging from four-star hotels to comfortable,

high quality bed & breakfast accommodation, while

our professional conference hotels can cater for both

meeting and accommodation requirements. The

coast and countryside of the beautiful Gower Peninsula

provides the perfect location for team building and

management training opportunities. A wide range

of accredited operators are on hand to provide a

tailor-made package. The conference pages on

visitswanseabay.com can help you match your

conference and meeting requirements to the facilities

in Swansea Bay.

Liberty Stadium Conference

Cynhadledd yn Stadiwm Liberty

Guildhall

Neuadd y Ddinas

City Centre & SA1

Canol y Ddinas ac SA1

Swansea Bay Watersports

Chwaraeon Dw

^

r Bae Abertawe