Mynediad at ddoniau
Gallwn eich helpu i drefnu lleoliadau gwaith i
fyfyrwyr, gweithwyr graddedig a myfyrwyr ar gyfer
gwaith rhan-amser.
Mynediad at sgiliau
Byddwn yn gweithio gyda’ch busnes i ddarparu
hyfforddiant o bortffolio o raglenni i staff neu i
ddatblygu cyrsiau pwrpasol sy’n ymateb i anghenion
penodol eich busnes.
Mynediad at dechnoleg ac arbenigedd
Gallwn helpu eich busnes i arloesi a thyfu drwy
ymchwil contract, prosiectau ymgynghori, ecsbloetio
ein Heiddo Deallusol, cael mynediad at ein
technoleg, cyfleusterau ac offer a chydweithio ar
brosiectau ymchwil wedi’u hariannu.
Mynediad at gyfleusterau
Mae gennym gyfleusterau o’r radd flaenaf ar
Gampws Parc Singleton a Champws y Bae, felly p’un
ai eich bod am fanteisio ar ein canolfannau ymchwil
neu gynnal digwyddiad, gallwn eich helpu.
Sefydlwyd gan Ddiwydiant ar gyfer Diwydiant
Mae Prifysgol Abertawe wedi gweithio â sefydliadau mawr a bach am bron i 100 mlynedd.
Rydym yn gwrando ar y diwydiant a gallwn gynorthwyo eich sefydliad drwy ddarparu:
I ddysgu sut
allwn helpu eich
busnes, ffoniwch ni ar
01792 606060
neu e-bostiwch
business.enquiries@ abertawe.ac.uk